Chwilio

Ewch/Go

Show English

 
Arian i Bawb
Mae Cyd yn elusen gofrestredig, rhif 518371 Cyd is a registered charity, no. 518371

Croeso

Croeso i wefan Cyd, y mudiad sy'n dod â Chymry Cymraeg a dysgwyr ynghyd. Prif nod y mudiad yw helpu dysgwyr i groesi'r bont rhwng bod yn ddysgwyr a bod yn siaradwyr rhugl. Rydym yn gwneud hyn drwy drefnu ystod eang o weithgareddau, yn genedlaethol ac yn lleol.

Mae llawer yn meddwl fod y llythrennau CYD yn sefyll am 'Cymdeithas y Dysgwyr' , ond NID dyna ydyw. Mae'r bobl rugl eu Cymraeg sydd yn y mudiad yn rhan hanfodol ohono. Hebddyn nhw fasai dim mudiad. Holl bwrpas Cyd ydy dod â nhw a dysgwyr ynghyd.
Welcome to the Cyd website. Cyd is an organisation that aims to help turn Welsh learners into speakers through organising a wide range of events for learners and fluent speakers. You can find out what Cyd is doing in your area through this website. The website is mainly in Welsh, but there are often translations or summaries in English: click on the 'Show English' button to see them. There is also a summary in English of what Cyd does.

Dyfodol Cyd

Cynhaliwyd cyfarfod o'r Ymddiriedolwyr ar 21ain o Chwefror, ac ar ôl trafodaeth hir a gyda thristwch mawr, penderfynwyd dod â Cyd fel elusen a mudiad cenedlaethol i ben ar ddiwedd mis Mawrth 2008.
OND – bydd gwaith a gweithgareddau Cyd yn parhau!
O'r 1af o Ebrill 2008 ymlaen, bydd pob cangen Cyd yn troi'n grŵp annibynnol, gyda'r
hawl i ddefnyddio enw a logo Cyd. Darllenwch mwy yn y llythyr a anfonwyd at bob grŵp Cyd.

Cystadleuaeth i Ddysgwyr - Ysgrifennu Stori


Mae'r Academi a Lingo Newydd - y cylchgrawn i ddysgwyr - yn rhoi gwobr am ysgrifennu stori. Mae'r gystadleuaeth hon yn agored i ddysgwyr yn unig.

Pwy yw'r beirniad? Catrin Dafydd - mae hi'n fardd ac yn awdur. Mae wedi cyhoeddi nofel yn Gymraeg o'r enw Pili Pala a nofel yn Saesneg o'r enw Random Deaths and Custard

Beth yw'r wobr?
• £50 gan gwmni Golwg (sy'n cyhoeddi Lingo Newydd)
• Cyhoeddi'r stori sy'n ennill yn Lingo Newydd
• Tanysgrifiad blwyddyn i Golwg
• Tanysgrifiad blwyddyn i Taliesin
• Aelodaeth blwyddyn o'r Academi
• Gwerth £50 o lyfrau gan Wasg Gomer.

I gystadlu rhaid i chi:
Ysgrifennu stori 500 o eiriau neu lai (gallwch anfon mwy nag un stori)
Fod yn ddysgwr
Anfon y gwaith erbyn 30 Mai 2008 at y cyfeiriad isod:

Cystadleuaeth Academi/ Lingo Newydd
Academi, Tŷ Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FQ
/ 029 2047 2266

Dyddiad cau - 30 Mai 2008

Newyddion | News

Archif Cadwyn Cyd bellach ar-lein Cadwyn Cyd Archive now on-line
Ysgoloriaeth Dan Lynn James 2007 Dan Lynn James 2007
Caryl Lewis ac WEDI 7

Rhestr lawn | Full list

Digwyddiadau | Events

Penwythnos Owain Glyndŵr Penwythnos i Ddysgwyr Cymraeg yn Llys Llewelyn, Aberffraw, Ynys Môn, 12-14 Medi 2008. Manylion llawn

Owain Glyndŵr Weekend A weekend for Welsh Learners at Llys Llewelyn, Aberffraw, Ynys Môn, 12-14 Sept 2008. Full details


Valid HTML 4.01 Transitional