Chwilio

Ewch/Go

Hide English

 
Arian i Bawb
Mae Cyd yn elusen gofrestredig, rhif 518371 Cyd is a registered charity, no. 518371

Croeso

Croeso i wefan Cyd, y mudiad sy'n dod â Chymry Cymraeg a dysgwyr ynghyd. Prif nod y mudiad yw helpu dysgwyr i groesi'r bont rhwng bod yn ddysgwyr a bod yn siaradwyr rhugl. Rydym yn gwneud hyn drwy drefnu ystod eang o weithgareddau, yn genedlaethol ac yn lleol.

Mae llawer yn meddwl fod y llythrennau CYD yn sefyll am 'Cymdeithas y Dysgwyr' , ond NID dyna ydyw. Mae'r bobl rugl eu Cymraeg sydd yn y mudiad yn rhan hanfodol ohono. Hebddyn nhw fasai dim mudiad. Holl bwrpas Cyd ydy dod â nhw a dysgwyr ynghyd.
Welcome to the Cyd website. Cyd is an organisation that aims to help turn Welsh learners into speakers through organising a wide range of events for learners and fluent speakers. You can find out what Cyd is doing in your area through this website. The website is mainly in Welsh, but there are often translations or summaries in English: click on the 'Show English' button to see them. There is also a summary in English of what Cyd does.

Dyfodol Cyd

Cynhaliwyd cyfarfod o'r Ymddiriedolwyr ar 21ain o Chwefror, ac ar ôl trafodaeth hir a gyda thristwch mawr, penderfynwyd dod â Cyd fel elusen a mudiad cenedlaethol i ben ar ddiwedd mis Mawrth 2008.
OND – bydd gwaith a gweithgareddau Cyd yn parhau!
O'r 1af o Ebrill 2008 ymlaen, bydd pob cangen Cyd yn troi'n grŵp annibynnol, gyda'r
hawl i ddefnyddio enw a logo Cyd. Darllenwch mwy yn y llythyr a anfonwyd at bob grŵp Cyd.

Ysgoloriaeth Dan Lynn James 2009.

Pwrpas Ysgoloriaeth Dan Lynn James yw rhoi cymorth ariannol i ddysgwyr sydd am wella eu Cymraeg a'i defnyddio yn eu bywyd bob dydd. Mae un ysgoloriaeth o hyd at £1000 ar gael. Dyddiad cau am geisiadau: 1af o Fawrth 2009.
Manylion llawn+Ffurflen gais

Dan Lynn James Scholarship 2009


The purpose of the Dan Lynn James Scholarship is to give financial support to Welsh learners who wish to improve their Welsh and use it in their daily life. One scholarship of up to £1000 is available.

Closing date for applications: 1st March 2009


Full details and application form



Merched y Wawr: Cystadlaethau i ddysgwyr 2009

Dyma wybodaeth am gystadlaethau MYW i ddysgwyr.
Mae'r cystadlaethau'n agored i bawb sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith.
Bydd angen cymorth a chydweithrediad aelod o Ferched y Wawr ar gyfer un o'r cystadlaethau.
Dyddiad cau 16 Mawrth 2009.

Merched y Wawr Competitions for Learners 2009


Here is some information about MYW competitions for Welsh learners

The competitions are open to everyone learning Welsh as a second language


The help and cooperation of a member of Merched y Wawr is required for one of the competitions


Closing date: 16 March 2009


Newyddion | News

Enillwyr Ysgoloriaeth Dan Lynn James 2008 Winners of Dan Lynn James Scholarship 2008
Archif Cadwyn Cyd bellach ar-lein Cadwyn Cyd Archive now on-line
Ysgoloriaeth Dan Lynn James 2007 Dan Lynn James 2007

Rhestr lawn | Full list

Digwyddiadau | Events

Ysgoloriaeth Dan Lynn James 2009.
Pwrpas Ysgoloriaeth Dan Lynn James yw rhoi cymorth ariannol i ddysgwyr sydd am wella eu Cymraeg a'i defnyddio yn eu bywyd bob dydd. Mae un ysgoloriaeth o hyd at £1000 ar gael. Dyddiad cau am geisiadau: 1af o Fawrth 2009.
Manylion llawn+Ffurflen gais
Dan Lynn James Scholarship 2009
The purpose of the Dan Lynn James Scholarship is to give financial support to Welsh learners who wish to improve their Welsh and use it in their daily life. One scholarship of up to £1000 is available. Closing date for applications: 1st March 2009
Full details and application form



Valid HTML 4.01 Transitional