|
Mae Cyd yn elusen gofrestredig, rhif 518371 Cyd is a registered charity, no. 518371
|
Anfonir y llythyr isod at ganghennau Cyd ar ddechrau mis Chwefror 2007:
The following letter will be sent to Cyd branches at the beginning of February 2007
English translation
31ain Ionawr 2007
Ysgrifennaf atoch i'ch hysbysu am nifer o newidiadau sylfaenol sydd ar y gweill yn strwythur a gweithgareddau Cyd.
Fel yr ydych chi'n gwybod, ar hyn o bryd mae saith aelod o staff gan Cyd, sy'n gweithio mewn ardaloedd amrywiol. Mae gwaith Cyd yn cael ei gyllido yn bennaf gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg drwy grant blynyddol.
Fel rhan o'r holl newidiadau ym maes Cymraeg i Oedolion, yn bennaf sefydlu'r Canolfannau Iaith, mae'r Bwrdd wedi penderfynu peidio â chyllido Cyd bellach ar y sail bresennol. O ganlyniad ni fydd y staff presennol yn gweithio i Cyd ar ôl diwedd mis Ionawr 2007.
Mae Ymddiriedolwyr Cyd a Bwrdd yr Iaith Gymraegyn awyddus i sicrhau na fydd holl brofiad Cyd yn y maes yn cael ei golli, ac fe fydd yr Ymddiriedolwyr yn trafod gyda'r Bwrdd a phartneriaid eraill y Bwrdd, y Canolfannau Iaith yn arbennig, sut y gall Cyd parhau i gydweithio gyda nhw.
Ar hyn o bryd mae nifer o opsiynau ar gyfer strwythur ac amcanion Cyd yn y dyfodol: rydym yn obeithiol bydd digon o gyllid ar gael i ni gyflogi rhywun rhan amser am y tro i sicrhau rhyw lefel o barhad, gan gynnwys gwasanaeth i'r canghennau ac i helpu tra'n bod ni'n datblygu strategaeth ar gyfer y dyfodol.
Mae'n amhosibl i Cyd weithio ar wahân i grwpiau eraill a heb eu chymorth. Felly rydym yn awyddus iawn i gynnwys cynifer o bobl ag sy'n bosibl yn y trafodaethau am y dyfodol - aelodau Cyd, dysgwyr, siaradwyr rhugl, Canolfannau Iaith, Mentrau Iaith a mudiadau eraill sy'n weithredol yn y maes. Bydd yr Ymddiriedolwyr yn siarad â llawer o bobl yn ystod y wythnosau a misoedd i ddod, er mwyn penderfynu beth fydd rôl Cyd ac i drafod posibiliadau am ffynonellau cyllidol newydd. Hefyd, rydym yn bwriadu trefnu Cynhadledd yn ystod y Gwanwyn i roi cyfle i bawb fynegi barn. Anfonwn fanylion at bobl yn nes ymlaen.
Yn y cyfamser, gobeithio bydd rhyw lefel o wasanaeth ar gael drwy swyddfa Cyd, ac rydym yn bwriadu ailstrwythuro gwefan Cyd i gynnwys mwy o ddefnydd ymarferol a fydd yn ddefnyddiol i ganghennau sy'n ceisio trefnu digwyddiadau, ac i unigolion sydd eisiau sefydlu cangen.
Yn anffodus, rhaid i ni ffarwelio â'n staff presennol, sydd wedi gweithio yn galed am flynyddoedd dros Cyd. Hoffwn ddiolch iddyn nhw i gyd.
Mae manylion dyfodol Cyd yn aneglur ar hyn o bryd, ond teimlwn fod gan Cyd cyfraniad pwysig I'w wneud, a pharheir â'r gwaith mae Cyd wedi bod yn ei wneud ers dros 25 blynedd, sef dod â dysgwyr a siaradwyr rhugl yr iaith ynghyd, er mwyn troi'r dysgwyr yn siaradwyr hyderus, sy'n fodlon defnyddio'r iaith yn eu cymunedau bod dydd.
Yn gywir
Nigel A Callaghan
Cadeirydd Cyd, ar rhan yr Ymddiriedolwyr
I am writing to you to advise you of a number of fundamental changes that are occuring in the structure and activities of Cyd.
As you know, Cyd currently has seven members of staff who work in various areas. The work of Cyd is funded principally by the Welsh Language Board through an annual grant.
As part of all the changes in the field of Welsh for Adults, in particular the establishment of the Language Centres, the Board has decided not to continue funding Cyd on the present basis. As a result the present staff will cease to work for Cyd at the end of January 2007.
The Trustees of Cyd and the Welsh Language Board are keen to ensure that Cyd's extensive experience in this field is not lost, and the Trustees will discuss with the Board and the Board's other partners – the Language Centres in particular – how Cyd can continue to work with them.
At the moment there are several options for the structure and aims of Cyd in the future: we are hopeful that sufficient funding can be found to allow us to employ someone part-time for the time being to ensure some level of continuity, including providing a service to the branches and to help while we develop a strategy for the future.
It's impossible for Cyd to work separately from other groups and without their help. We are therefore eager to include as many people as possible in the discussions about the future – members of Cyd, learners, fluent speakers, the Language Centres, the Mentrau and other organisations that are active in the field. The Trustees will talk to many people in the weeks and months to come, so as to decide what the rôle of Cyd will be and to investigate options for new sources of funding. We are also intending to arrange a Conference during the Spring to give everyone an opportunity to express an opinion. Further details will be sent out later on.
In the meantime, it is hoped that some level of service will continued to be offered through the Cyd Office, and we are intending to restructure the Cyd website to include more practical materials that will be of use to branches who are trying to arrange events and to individuals who wish to establish a branch.
Unfortunately, we must say goodbye to our present staff who have worked so hard for Cyd for many years. We would like to thank them all.
The details of Cyd's future are unclear at the moment, but we feel that Cyd still has an important contribution to make, and will continue with the work it has been doing for over 25 years: bringing learners and fluent speakers together, so as to turn the learners into confident speakers of Welsh, who are happy to use the language in their communities every day.
Yours sincerely
Nigel A Callaghan
Chairman of Cyd, on behalf of the Trustees
|
|