Penwythnos Canolfan y Mileniwm Cynahaliwyd penwythnos preswyl yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd o 1-3 Gorffennaf 2005. Fe fu amserlen llawn, gan gynnwys taith o gwmpas y Canolfan, taith i Amgueddfa Sain Ffagan a cyngerdd ym Mhontypridd (terfnwyd ar y cyd gyda Menter Iaith Rhondda Cynon Taf). Fe gafodd pawb benwythnos i'w cofio, llawn hwyl a sbri.Dyma ychydig sylwadau rydym wedi derbyn gan aelodau a oedd yno: 'Diolch o galon am drefnu penwythnos mor ddiddorol a hwyliog! Cefais amser braf iawn yng Nghaerdydd, ac roedd yn braf iawn cael mynd i'r Stadiwm a Chanolfan y Mileniwm. Hefyd, doedd nunlle gwell i fod na Sain Ffagan ddydd Sul gyda'r tywydd mor fendigedig. Mwynheais y sgwrs addysgol a diddorol hefyd yn y tai Celtaidd.' Rhian Medi , Llundain a Chymru 'Diolch am drefnu'r penwythnos yng Nghaerdydd. Dw i wedi mwynhau'r cymdeithasu, y tafarnau, a'r teithiau gydag arweinyddion.' Stephen Ball, Llundain 'Diolch yn fawr am y penwythnos. I thought the organisation was excellent and enjoyed the weekend thoroughly - it was good to hear such a lot of Welsh over the weekend. It's given me the courage to go to the Cyd meeting in Haverfordwest this week!' Helen, Sir Benfro 'Diolch yn enfawr am y penwythnos yng Nghaerdydd – roedd e'n wych.'Julie, Abertawe Hoffwn i ddiolch i ti am y penwythnos diweddar yng Nghaerdydd. Hoffais i'n enwedig y Noson Lawen ym Mhontypridd, a'r ymweliadau â'r Stadiwm a Chanolfan y Mileniwm. Mae'r penwythnosau yn bwysig iawn i fi, gan ei fod yn amhosib i fi ddod am wythnos gyfan, er hoffwn i wneud hynny un diwrnod. Dw i'n edrych ymlaen at y tro nesa'. Martin, Stamford, Swydd Lincoln |

Cynahaliwyd penwythnos preswyl yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd o 1-3 Gorffennaf 2005. Fe fu amserlen llawn, gan gynnwys taith o gwmpas y Canolfan, taith i Amgueddfa Sain Ffagan a cyngerdd ym Mhontypridd (terfnwyd ar y cyd gyda Menter Iaith Rhondda Cynon Taf). Fe gafodd pawb benwythnos i'w cofio, llawn hwyl a sbri.
'Diolch am drefnu'r penwythnos yng Nghaerdydd. Dw i wedi mwynhau'r cymdeithasu, y tafarnau, a'r teithiau gydag arweinyddion.'
'Diolch yn enfawr am y penwythnos yng Nghaerdydd – roedd e'n wych.'