Chwilio

Ewch/Go

Show English

 
Arian i Bawb
Mae Cyd yn elusen gofrestredig, rhif 518371 Cyd is a registered charity, no. 518371
This is a scholarship for Welsh learners to attend an advanced Welsh course/residential course; or a course on any subject through the medium of the Welsh language; or purchase books/cassettes. Preference given to CYD members.

Ysgoloriaeth Dan Lynn James


Dan Lynn JamesPwrpas ysgoloriaeth Dan Lynn James yw rhoi cymorth ariannol i ddysgwyr sydd am barhau i astudio/ddefnyddio'r Gymraeg. Ystyrir y cais gan banel ar ran CYD a fydd yn cynnwys y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd ynghyd â dau aelod i'w cyfethol sydd â phrofiad ym maes dysgu Cymraeg i Oedolion. Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sydd eisoes yn gefnogwyr CYD.
Enillwyr blaenorol yr ysgoloriaethau

Rheolau ac amodau - Rules and conditions

1. Bob blwyddyn, cynigir ysgoloriaeth hyd at £250. Bydd gan y panel yr hawl i rannu'r ysgoloriaeth rhwng sawl ymgeisydd.

Every year a scholarship of £250 is offered. The panel reserves the right to share the scholarship between several applicants.


2. Ni ellir ystyried cais gan unrhyw ymgeisydd nad yw'n ateb pob cwestiwn ar y ffurflen gais ac amgau geirda gan ganolwr (ee gallai fod yn diwtor Cymraeg, cyflogwr, cynghorydd).

No application will be considered unless each question on the application form is answered and accompanied by a reference. (eg this could be from a Welsh tutor,employer, councillor).


3. Ni ellir ystyried unrhyw gais a dderbynnir ar ôl 1 Ebrill yn y flwyddyn perthnasol. Cedwir yn gaeth at y rheol hon.

Any application submitted after 1 April in the relevant year will not be considered. This condition will be strictly adhered to.


4. Gall ymgeisydd wneud cais am ysgoloriaeth i ariannu unrhyw weithgaredd neu brosiect a fydd yn ei gynorthwyo i ddysgu'r Gymraeg. Rhoddir blaenoriaeth fodd bynnag i ymgeiswyr sydd yn awyddus i fynychu cyrsiau dwys a dysgwyr sydd am barhau â'u hastudiaethau neu sydd am ddilyn cwrs mewn pwnc arall trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd disgwyl i bob ymgeisydd ddangos bwriad i ddefnyddio'r Gymraeg a hyrwyddo'r Gymraeg mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.

Dylai pob ymgeisydd ddangos na allai ymgymryd â'r cwrs/gweithgaredd/prosiect heb gymorth yr ysgoloriaeth.

Applicants may apply for a scholarship to fund any course,activity or project that will help them to learn and improve their Welsh. However, preference will be given to learners who are eager to follow an intensive course, or learners at intermediate or advanced levels who wish to further pursue their studies.


All applicants are expected to show an intention to use the Welsh language and promote the language in one way or another.


Applicants must show that they would not be able to undertake the proposed course/activity/project without the help of a scholarship.


5. Bydd penderfyniad y panel yn derfynol. Ni fydd hawl gan berthnasau staff a swyddogion mygedol CYD i wneud cais.

The decision of the panel will be final. Relatives of CYD's staff or officials willnot be eligible to apply.


6. Rhoddir ateb i'r ymgeisydd neu'r ymgeiswyr llwyddiannus erbyn Mai 1 yn y flwyddyn perthnasol. Telir yr arian a ddyfernir yn ôl amgylchiadau'r ymgeisydd a dyddiadau'r cwrs/gweithgaredd/prosiect dan sylw.

The successful applicant/applicants will be informed of the panel's decision by 1 May in the relevant year. The money awarded will be paid according to the applicant's circumstances and the dates of the course/activity/project.


7. Bydd yn rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus ddangos tystiolaeth o wariant o fewn chwe mis i dderbyn yr ysgoloriaeth. O fethu â gwneud hynny, bydd CYD yn cadw'r hawl i fynnu ad-daliad am yr holl swm a roddwyd.

Each successful applicant must submit proof of expenditure within six months in order to receive the scholarship. Unless this is done, CYD will exercise its right to request a refund of the total amount granted.



Manylion a Ffurflen Gais (PDF)application form

Valid HTML 4.01 Transitional